Wales School for Social Prescribing Research logo

Y Gweithlu ac Addysg

Nodi dangosyddion ansawdd ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol

Gan ddefnyddio dulliau consensws, mae ymchwilwyr WSSPR yn gweithio i nodi dangosyddion ansawdd y gellir eu defnyddio ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol. Gall y canlyniadau fod yn sail ar gyfer datblygu fframwaith ansawdd presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru.

Cyswllt: Yr Athro Carolyn Wallace


Datblygu deunyddiau hyfforddi i'w gwethuso mewn rhagnodi cymdeithasol

Nod WSSPR yw datblygu deunyddiau hyfforddi ar gyfer rhagnodwyr cymdeithasol ac ymchwilwyr i gefnogi gwerthuso a monitro ymyriadau rhagnodi cymdeithasol. Gwneir hyn ar ôl datblygu'r fframwaith methodoleg gwerthuso rhagnodi cymdeithasol.

Cyllidwr: Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Cyswllt: Yr Athro Carolyn Wallace

MRes - Suzy Rogers

Ymchwilio celf ar bresgripsiwn yng Nghymru: sut i gyflawni ffactorau llwyddiant critigol ar gyfer cynaladwyedd

 Nod yr ymchwil hwn ydy sefydlu ffactorau llwyddiant critigol a fydd yn galluogi cynaladwyedd 'Art-On-Prescription' yng Nghymru. Nod arall yr ymchwil ydy ymchwilio i’r modd y mae gan ffactorau critigol botensial am gynaladwyedd hirdymor ym maes presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru.   

Cyswllt: Yr Athro Carolyn Wallace

‘Gwella Llesiant Myfyrwyr drwy Bresgripsiynu Cymdeithasol’ :
Dull realaidd o fynd ati

Gwerthusiad realaidd o ymyrraeth presgripsiynu cymdeithasol ar gyfer myfyrwyr addysg uwch i wella eu lles a'u hiechyd meddwl. Bydd yr ymyrraeth yn cael ei gweithredu a'i gwerthuso ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam a bydd yr egwyddorion yn cael eu trosglwyddo i Brifysgol De Cymru

Cyllid: Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

Partneriaid: Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, Prifysgol De Cymru, Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru (WIHSC), Canolfan PRIME Cymru. 

Darllenwch yr adroddiad yma.

Cyswllt: Yr Athro Carolyn Wallace

Anghenion Dysgu Rhagnodi Cymdeithasol

Gan ddefnyddio dulliau consensws, nododd ymchwilwyr anghenion hyfforddi yr oedd rhagnodwyr cymdeithasol yn teimlo eu bod yn bwysig, ac ar gael neu ddim ar gael, a lle mae'r rhain yn cyd-fynd â llinell amser gyrfa person sy'n cyflwyno rhagnodi cymdeithasol.

Cyllidwr: Addysg a Gwella Iechyd Cymru Partneriaid: Prifysgol De Cymru, Canolfan PRIME Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Prifysgol Wrecsam Glyndŵr

Cyswllt: Yr Athro Carolyn Wallace

Darllenwch y cyhoeddiad yma.


 

Cydweithio?

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'n rhwydwaith ymchwilwyr i dderbyn newyddion a diweddariadau oddi wrth Ysgol Ymchwil Presgripsiynu Cymdeithasol Cymru, neu os hoffech siarad ag aelod o'r tîm i drafod cydweithredu posibl ar ymchwil, cysylltwch â ni.

                   

© Copyright Wales School for Social Prescribing Research