
Gan ddefnyddio 'Group Concept Mapping', cynhaliodd ymchwilwyr WSSPR astudiaeth ryngwladol dri chyfnod er mwyn datblygu cysyniad o lesiant cymdeithasol: Dynododd yr astudiaeth chwe elfen o lesiant cymdeithasol; ‘bywyd o ddydd i ddydd, gweithgareddau a gweithgareddau hamdden’ 'teulu a chyfeillion', ‘cysylltu ag eraill a chynorthwyo anghenion’, ‘ymglymiad cymunedol’, 'gweithio gyda ac ystyried y byd ehangach’ a ‘hunan-dwf a diogelwch’.
Darllenwch adroddiad mapio cysyniad y grŵp llawn yma.
Cyswllt: Megan Elliott
Gan ‘ddefnyddio’r cysyniad o lesiant cymdeithasol a nodwyd yn yr astudiaeth 'Group Concept Mapping', mae ymchwilwyr WSSPR yn datblygu adnodd i fesur llesiant cymdeithasol y gellir ei ddefnyddio gan ymarferwyr ac ymchwilwyr presgripsiynu cymdeithasol.
Cyswllt: Megan Elliott
Cwmni a menter gymdeithasol o Gymru sy'n datblygu rhaglenni datblygiad proffesiynol a phersonol gan flaenoriaethu symud fel ymyrraeth therapiwtig, a gwasanaethau seicotherapi symud dawns ar gyfer y sector iechyd, lles ac addysg.
Cyswllt: Dr Thania Acaron
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'n rhwydwaith ymchwilwyr i dderbyn newyddion a diweddariadau oddi wrth Ysgol Ymchwil Presgripsiynu Cymdeithasol Cymru, neu os hoffech siarad ag aelod o'r tîm i drafod cydweithredu posibl ar ymchwil, cysylltwch â ni.