TOOLS 

Amdanom ni

Nod WSSPR ydy cyflenwi allbwn ar bedwar amcan sefydledig.
Yn ogystal â chanlyniadau ac effaith yn y byd academaidd, mae defnyddio’r model ymchwil trosi yn galluogi WSSPR i gael effaith ar bolisi, arferion, iechyd a llesiant.
  1. Meithrin rhaglen ymchwil aml-gyfnod, uchel ei ansawdd i ddatblygu methodoleg gwerthuso ar gyfer rhagnodi cymdeithasol.

  2. Trosi canfyddiadau ymchwil yn arferion, polisi ac addysg.

  3. Cynyddu ymwybyddiaeth o ymchwil a’r gallu i gynnal rhagnodi cymdeithasol ar draws sectorau.

  4. Datblygu ‘r gallu ymchwil o fewn Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol.


Pwy ydym ni

Pwy ydy Pwy yn y grwp, strwythur y drefn lywodraethol a phartneriaethau allweddol yn y dyfarniad.

Pwy yw pwy yn y grŵp, strwythur llywodraethu a phartneriaethau allweddol sydd wedi'u cynnwys yn y wobr.

Lleolir WSSPR o fewn Canolfan PRIME Cymru o dan Thema 2: 'Gofal Di-dor yn Nes at y Cartref' ac o fewn Pecyn Gwaith 4: ‘Gofal yn Nes at y Gymuned’. Bydd gwaith a gynhelir gan WSSPR yn bwydo i mewn i Ganolfan PRIME Cymru drwy gyfarfodydd grŵp gweithredol rheolaidd. 

O fewn WSSPR ceir WSPRN, Rhwydwaith Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru. Rhwydwaith ydy hwn o ymchwilwyr ac ymarferwyr yng Nghymru sydd â diddordeb mewn rhagnodi cymdeithasol. Yn gyfredol mae gan y rhwydwaith dros 350 o aelodau. 

Drwy’r rhwydwaith, WSPRN, mae tair Cymuned Ymarfer yn gweithredu yng Ngogledd Cymru, , Gorllewin Cymru, a CONNECT Cymru. Mae’r rhain yn bwydo wybodaeth i aelodau y cyhoedd a’r gymuned rhagnodi cymdaethasol ar draws Cymru. 

Mae Grŵp Llywio WSSPR yn cwrdd bob dau fis. Ymhlith yr aelodau mae cynrychiolaeth o faes academia trydydd sector, iechyd cyhoeddus, y GIG, gofal cymdeithasol a dau aelod lleyg. Mae’r grŵp llywio yn cynnig canllawiau strategol i’r WSSPR ar sut y gellir manteisio i’r eithaf ar effaith ymchwil yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae’n gweithredu fel cyfaill critigol ac yn cynorthwyo gweithgareddau ymchwil i gyflawni nod ac amcanion yr ysgol. 

Bob yn ail fis, bydd Grŵp Gweithredol WSSPR yn cwrdd. Mae’n cynnwys cyfarwyddwr WSSPR, arweinydd y trydydd sector, arweinydd gwerth cymdeithasol, staff ymchwil wedi’u hariannu’n greiddiol a dau aelod lleyg. Diben y grŵp gweithredol ydy monitro gweithgareddau a chynnydd yn erbyn amcanion grant ac i gydlynu, adolygu, cynnig adborth a chyfrannu at ddatblygiad a chyflenwad y gweithgareddau grant a swyddogaethau cysylltiol. 

Mae Bwrdd Cynghori Rhyngwladol WSSPR yn cyfarfod yn flynyddol. Mae'n darparu cyngor annibynnol, sylwadau beirniadol, a safbwyntiau rhyngwladol ar ymchwil WSSPR. Mae'n cynnwys arbenigwyr mewn rhagnodi cymdeithasol, gofal sylfaenol, iechyd cymunedol a gofal cymdeithasol o Loegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Gweriniaeth Iwerddon, Sbaen, Sweden, Gwlad Pwyl, Ffrainc, yr Iseldiroedd, Awstralia, Seland Newydd a Chanada. Cyfarfu’r Bwrdd ym mis Tachwedd 2021. 

Mae gan WSSPR 10 myfyriwr ymchwil a leolir ym Mhrifysgol De Cymru a Phrifysgol Bangor yn astudio prosiectau yn ymwneud â rhagnodi cymdeithasol. Hefyd, mae 2 fyfyriwr wedi cwblhau eu hastudiaethau yn llwyddiannus eleni. 

Mae WSSPR hefyd yn arwain cylch diddordeb rhagnodi cymdeithasol Canolfan Arbenigol Arbenigedd Rhanbarthol Cymru (RCE Cymru). Mae RCE Cymru yn aelod o 150 rhwydwaith byd-eang RCE a ffurfiwyd gan Sefydliad Prifysgol Y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Uwch Astudiaeth o Gynaliadwyedd mewn ymateb i benderfyniad y Cenhedloedd Unedig - Degawd o Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy (2005-2014).