TOOLS 
Ariennir WSSPR gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Adroddiad Blynyddol 2021-22

Dewch i weld sut rydym wedi tyfu yn ein hail flwyddyn o ariannu

Lawrlwythwch yr adroddiad (pdf) gan ddefnyddio’r dolenni isod:

Cenhadaeth Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru yw gwella iechyd a lles cymdeithas trwy ymchwil i ragnodi cymdeithasol a’i werthuso mewn modd rhagorol.

Mae Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru (WSSPR) dan arweiniad ymchwilwyr ym Mhrifysgol De Cymru ac mae’n ysgol Cymru gyfan.
Rydym yn defnyddio model ymchwil trosiadol i sicrhau bod canfyddiadau yn cael effaith fawr yn y byd academaidd, ymarfer, polisi ac addysg.
Mae rhagnodi cymdeithasol yn “cysylltu dinasyddion â chymorth cymunedol i reoli eu hiechyd a’u llesiant yn well”. Yng Nghymru, mae rhagnodi cymdeithasol i’w gael yn y gymuned yn bennaf, gyda rhagnodwyr cymdeithasol yn cael eu hariannu gan sefydliadau’r sector gwirfoddol. Gellir cyfeirio unigolion at ragnodi cymdeithasol trwy lwybrau clinigol a chymdeithasol, ac mae model hunan-atgyfeirio yn dod i'r amlwg.

Ariennir Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru (WSSPR) gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac mae’n rhan o Ganolfan PRIME Cymru.

Cyhoeddiad diweddar: Thomas, G., Lynch, M., Spencer, L.H. (2021). A Systematic Review to Examine the Evidence in Developing Social Prescribing Interventions That Apply a Co-Productive, Co-Designed Approach to Improve Well-Being Outcomes in a Community Setting. International Journal of Environmental Research and Public Health; 18(8):3896. https://doi.org/10.3390/ijerph18083896 

Themâu ymchwil

Mae angen datblygu’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer rhagnodi cymdeithasol ac mae bylchau yn ein dealltwriaeth o’r effaith, y mecanweithiau a’r rolau o fewn rhagnodi cymdeithasol.
Nod WSSPR yw mynd i’r afael â’r bylchau hyn drwy weithio o fewn pedair thema sydd wedi datblygu drwy ddefnyddio ein model ymchwil trosiadol:
Flag A line styled icon from Orion Icon Library.
  1. Gwerthusiad

Nod thema’r Gwerthusiad yw cyfrannu at ddatblygu gwerthusiad cadarn o bresgripsiynu cymdeithasol.

Heart A line styled icon from Orion Icon Library.

2. Gwerth cymdeithasol

Nod y thema Gwerth Cymdeithasol yw cynnal ymchwil gwerth cymdeithasol ar gyfer rhaglenni rhagnodi cymdeithasol i ddarparu tystiolaeth ar gyfer effaith ymyriadau, dyrannu adnoddau a gwasanaethau gwerth am arian.

Idea A line styled icon from Orion Icon Library.

4. Lles

Nod y thema Lles yw archwilio sut mae gwahanol fodelau llesiant yn cydberthyn, ac yn cael eu hadlewyrchu a’u cymhwyso mewn theori ac ymarfer rhagnodi cymdeithasol.

Idea A line styled icon from Orion Icon Library.

5. NBIC+

Mae thema NBIC+ yn archwilio effeithiolrwydd a gwerth ymyriadau sy'n seiliedig ar natur (NBIau) a gweithgareddau sy'n dod o dan ymbarél 'atgyfeirio creadigol', yn ogystal â'r berthynas rhwng y ddau.

Fideo

Beth ydy presgripsiynu cymdeithasol?

Animeiddiad Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru

Cysylltwch â ni

Cyflwyno mynegiant o ddiddordeb mewn cydweithredu ymchwil, neu gofrestru ar ein rhwydwaith i gael newyddion a diweddariadau rhagnodi cymdeithasol
Enw E-bost Cofrestru rhwydwaith (ar gyfer newyddion a digwyddiadau) Neges I agree to the Terms & Conditions and Privacy Policy Submit