TOOLS 

Rhestr Termau Rhagnodi Cymdeithasol

29 Mai 2023

Rhai o wirfoddolwyr RHOI LLAIS a ddaeth i roi eu barn ar y Rhestr Termau newydd ar gyfer Rhagnodi Cymdeithasol, Prifysgol Bangor, 26/05/2023. Hwylusodd Dr Llinos Haf Spencer, Arweinydd Cynnwys y Cyhoedd a'r Athro Carolyn Wallace, Cyfarwyddwr Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru, y digwyddiad.


Roedd aelodau cynnwys y cyhoedd a chleifion effeithiol RHOI LLAIS sy'n siarad Cymraeg yn rhan o grŵp o randdeiliaid a gasglodd ym Mhrifysgol Bangor ddydd Gwener 26 Mai 2023 i drafod fersiwn Gymraeg Geirfa Termau Rhagnodi Cymdeithasol.

Cynhyrchwyd y rhestr termau yn Saesneg yn gyntaf gan Dr Simon Newstead, Amber Pringle, Bethan Jenkins, Dr Amrita Jesurasa a’r Athro Carolyn Wallace, a’i chyfieithu i’r Gymraeg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ymunodd aelodau staff yr Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd ag aelodau cyhoeddus a chynhaliwyd trafodaeth wych a hwylusodd Dr Llinos Haf Spencer, Arweinydd Cynnwys y Cyhoedd a'r Athro Carolyn Wallace, un o gyd-awduron y rhestr termau. Bydd rhai o'r termau Cymraeg yn cael eu newid yn dilyn trafodaeth.

Er enghraifft: Nid yw 'Rhagnodi Cymdeithasol' yn cael ei ddefnyddio gan siaradwyr Cymraeg, ac mae 'Atgyfeirio Cymdeithasol' yn fwy addas, syml a dealladwy i gyfleu ystyr yr hyn ydyw i gynulleidfa eang. Teimlwyd bod presgripsiwn yn rhy feddygol.

'Rhagnodi' yw'r gair yn y geiriadur am 'roi presgripsiwn' ond nid yw hyn yn cael ei ddefnyddio mewn Cymraeg llafar, ac er bod siaradwyr Cymraeg yn dweud 'prescripsiwn' am 'prescription' mae gan y gair 'prescripsiwn' arwyddocâd meddygol iawn ac nid yw'n cyfleu'r broses o ragnodi 'cymdeithasol'.

Bydd o leiaf 41 term yn y rhestr termau yn cael eu newid yn dilyn y drafodaeth a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor. Cynhaliwyd ymgynghoriad pellach yn Venue Cymru, Llandudno ar y 6 Gorffennaf 2023.