TOOLS 

Dosturi a phresgripsiynu cymdeithasol

02 November 2022

Annwyl Bresgripsiynwyr Cymdeithasol, Rydym yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil ar dosturi a phresgripsiynu cymdeithasol.

Beth yw'r astudiaeth ymchwil?

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam yn awyddus i ddatblygu gweithdy yn seiliedig ar dosturi i staff y sector iechyd a llesiant sydd â’u rôl yn cynnwys presgripsiynu cymdeithasol, ac rydym yn awyddus i wybod mwy am dosturi a phresgripsiynu cymdeithasol er mwyn sicrhau bod yr hyfforddiant wedi’i deilwra’n briodol i fodloni anghenion y rhai sy’n gweithio o fewn y rôl hon. Bydd y gweithdy a ddatblygir yn ceisio cyflwyno strategaethau i bresgripsiynwyr cymdeithasol y gallent eu defnyddio i ddiogelu ac atgyfnerthu eu llesiant eu hunain, gan ymateb yn dosturiol i’r bobl maent yn gweithio â hwy ar yr un pryd.

Beth fyddai ynghlwm â chymryd rhan?

Byddai eich rhan yn yr ymchwil yn golygu ymgymryd â ‘chyfweliad’ anffurfiol gydag aelod o’r tîm ymchwil, a fyddai’n archwilio eich barn a’ch profiadau o dosturi a phresgripsiynu cymdeithasol. Byddai’r cyfweliad yn cael ei drefnu ar ddyddiad ac amser sy’n gyfleus i chi, ac yn cael ei gynnal ar-lein drwy Microsoft Teams. Byddai’n parhau am oddeutu 45 munud ac yn cael ei recordio fel y gellir dadansoddi eich gwybodaeth ar gyfer yr ymchwil.

Sut ydw i'n cymryd rhan neu’n cael rhagor o wybodaeth?

Os yw’ch swydd yn cynnwys presgripsiynu cymdeithasol ac mae cymryd rhan yn yr ymchwil hon o ddiddordeb i chi, cysylltwch â Sharon Wheeler, y prif ymchwilydd drwy e-bost (Sharon.Wheeler@glyndwr.ac.uk), a all ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych ac yn anfon manylion pellach atoch ynglŷn â’r ymchwil.

Diolch am ddarllen.

Dymuniadau gorau,

Y Tîm Ymchwil.