TOOLS 

Digwyddiadau

Digwyddiadau sydd i ddod o ddiddordeb posibl i'r rhwydwaith

Seminar CHOPS

Rhwydwaith Rhagnodi Cymdeithasol Gwyrdd Awyr Agored RhCT

Dyddiad: 8 Mai 2024 
Amser: 11:00 - 12:30
Lleoliad: Zoom

Crynodeb: Mae croeso cynnes yn eich disgwyl yng nghyfarfod nesaf Rhwydwaith Presgripsiynu Cymdeithasol Awyr Agored Gwyrdd RhCT ddydd Mercher, 8 Mai 2024 am 11:00am-12:30pm ar-lein drwy Zoom.

Rydym yn ffodus i gael cwmni Lisa Toghill o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus sy’n dod i’n cefnogi i gysylltu Presgripsiynu Gwyrdd a’r Asesiad Risg Newid Hinsawdd Newydd.

Byddwn hefyd yn croesawu Claire Turbutt, Uwch Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd a fydd yn cyflwyno ar y strategaeth gordewdra newydd; Pwysau Iach Cymru Iach a sut mae'n gysylltiedig â phresgripsiynu cymdeithasol gwyrdd.

Bydd cyfle i rwydweithio gyda'ch cyd-aelodau ac i ddiweddaru'r Padlet gyda'ch gwybodaeth.

Edrychwn ymlaen at eich gweld i gyd eto.

Cofrestru.

Seminar

Aspiration, Inspiration, Perspiration: Resourceful Communities Partnership’s national programme of events on communities and living well

Dyddiad: Mis Mawrth 2024 – Mis Mehefin 2024 
Amser: 12:30 - 13:30
Lleoliad: Ar-lein
Crynodeb: Gweler isod manylion digwyddiad ‘Cymunedoli’ – Y Ffordd Ymlaen. 

Dydd Iau 14 Mawrth o 12:30 – 13:30 gyda Selwyn Williams a Sue Denman 

Yn ystod y sesiwn hon, bydd sgwrs rhwng Selwyn Williams a Sue Denman o Gyda'n Gilydd dros Newid. Bydd y sesiwn yn trafod yr heriau sy'n wynebu'r economi a chymunedau yng Nghymru a sut mae gan 'cymunedoli' botensial mawr i elwa cymunedau a'r genedl. 

Bydd Selwyn yn trafod beth sydd wedi ysbrydoli ei feddwl a'i ymarfer yng ngwaith datblygu cymunedol ac yn tynnu ar esiamplau ymarferol sy'n dangos mai’r model hwn yw’r ffordd ymlaen. Bydd cyfle i ofyn cwestiynau a rhannu sylwadau yn ystod y sesiwn. 

Cliciwch yma i gofrestru am y digwyddiad hwn.

Mae Gyda'n Gilydd dros Newid yn trefnu rhaglen genedlaethol o ddigwyddiadau, gyda Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro, ar gyfer Y Bartneriaeth Cymunedau Dyfeisgar Cymru.

Gall unrhyw un fynychu'r sesiynau hyn: dinasyddion, grwpiau gwirfoddol, a sefydliadau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector. Beth ddylai fod mewn cyffredin gan bawb yw diddordeb ac ymrwymiad i adeiladu lles, a bywyd da i bawb.

Cofrestru.