TOOLS 

Profiadau Pobl Hŷn o Eithrio Digidol


26 Gorffennaf 2023

Mae technoleg ddigidol yn cael ei defnyddio fwy a mwy, sy’n golygu bod sut rydyn ni’n cyfathrebu ac yn cael gafael ar wasanaethau a gwybodaeth wedi newid yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Er bod hyn yn darparu nifer o gyfleoedd, mae llawer o bobl hŷn sydd ddim ar-lein – amcangyfrifir bod tua thraean o bobl dros 75 oed – mewn perygl o gael eu gadael ar ôl a’u hallgáu rhag gwybodaeth a gwasanaethau a allai eu helpu nhw i heneiddio’n dda.

Bydd pobl hŷn yn aml yn codi materion mewn perthynas ag allgáu digidol gyda mi, gan gynnwys trefnu apwyntiadau iechyd a gorfod defnyddio apiau i dalu am wasanaethau fel parcio. Materion eraill y tynnwyd sylw atynt yw trafferthion cael gafael ar wasanaethau, gwybodaeth a chyngor, yn ogystal â’r rhwystrau a wynebir gan bobl hŷn wrth iddynt geisio lleisio’u barn.

I ddysgu mwy am y materion a’r heriau a wynebir gan bobl hŷn sydd ddim ar-lein neu sydd heb lawer o sgiliau digidol, rwyf yn gwahodd pobl hŷn i rannu eu profiadau a rhoi gwybod am sut mae allgáu digidol yn effeithio arnynt.

Byddwn yn ddiolchgar petaech yn gallu fy helpu i gyrraedd cynifer o bobl hŷn â phosibl ledled Cymru. Gallwch helpu mewn nifer o ffyrdd, fel y canlynol:

  1. Annog pobl hŷn sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol i gysylltu â fy swyddfa i rannu eu profiadau (y manylion cyswllt isod)

  2. Rhannu’r profforma sydd wedi’i atodi (gallwn anfon copïau papur os gofynnir amdanynt)

  3. Llenwi’r ffurflen ar-lein [https://comisiynyddph.cymru/15165/] ar ran person hŷn rydych chi’n ei adnabod neu’n gweithio gydag ef

  4. Arddangos y poster sydd wedi ei atodi mewn mannau cymunedol i annog pobl hŷn i gysylltu â mi

  5. Cynnwys gwybodaeth am y gwaith hwn mewn unrhyw ddiweddariadau neu gylchlythyrau rydych chi’n eu creu a’u rhannu â phobl hŷn

  6. Rhannu enghreifftiau o arferion da

  7. Danfon y wybodaeth hon at unrhyw gysylltiadau a fyddai’n gallu estyn allan at bobl hŷn

Bydd hyn yn fy helpu i nodi unrhyw feysydd lle mae angen mwy o weithredu, ac a yw hawliau pobl i gael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau drwy ddulliau nad ydynt yn ddigidol yn cael eu cynnal - fe gyhoeddais ganllawiau ffurfiol ar gyfer awdurdodau lleol am y mater hwn yn 2021. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gwaith hwn a’r hyn sydd ar y gweill yma:

https://comisiynyddph.cymru/newyddion/canllawiau-newydd-i-sicrhau-bod-pobl-hyn-yn-gallu-cael-gafael-ar-yr-wybodaeth-ar-gwasanaethau-sydd-eu-hangen-arnynt-mewn-oes-ddigidol-2/

https://comisiynyddph.cymru/newyddion/mynediadau-gwybodaeth-a-gwasanaethau/

Gyda’ch help chi gallaf sicrhau bod lleisiau pobl hŷn sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol yn cael eu clywed, a bod eu profiadau yn cael eu defnyddio i ysgogi newid a chefnogi galwadau am weithredu.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â Sion Evans, fy Arweinydd Polisi ac Ymarfer (sion.evans@olderpeople.wales).

Diolch i chi ymlaen llaw am eich cymorth.

Heléna Herklots CBE
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Gwybodaeth gyswllt:Ffôn:  03442 640 670.
E-bost: ask@olderpeople.wales

Post:  Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Adeiladau Cambrian
Sgwâr Mount Stuart
Caerdydd
CF10 5FL