
Sgwrs Llyfr
Gweminar yr Haf IGGC
Dyddiad: 7 Medi 2023
Amser: 12:00 - 13:00
Lleoliad: Ar-lein
Crynodeb: Fe’ch gwahoddir yn gynnes i’r digwyddiad hwn, lle bydd yr Athro Steve Smith yn siarad am ei lyfr diweddar a gyhoeddwyd gan Springer, o’r enw The Ontology of Well-Being in Social Policy and Welfare Practice. Y prif gwestiwn sy'n cael sylw yn y llyfr yw pa fath o greaduriaid ydyn ni fel y gallwn ni brofi rhywbeth rydyn ni'n ei alw'n llesiant?
Yn ôl yr Athro Smith, mae mynd i’r afael â’r cwestiwn ontolegol hwn yn sylfaenol i faterion epistemolegol sy’n ymwneud â’r hyn a wyddom am lesiant, ac i faterion normadol ynghylch sut y dylem hyrwyddo llesiant fel gwerth cymdeithasol. Ac eto, er mawr syndod, mae’n gwestiwn sy’n aml yn cael ei wthio o’r neilltu neu ei anwybyddu mewn dadleuon academaidd a gwleidyddol am lesiant. Mewn ymgais i fynd i’r afael â’r cwestiwn hwn, yn uniongyrchol, mae’r llyfr yn nodi ac yn archwilio’r hyn a enwir yn chwe nodwedd o’r cyflwr dynol: ymgorfforiad dynol, meidroldeb, cymdeithasgarwch, gwybyddiaeth, gwerthuso, a gweithrediad.
Gan ymdrin ag ystod eang o brofiadau dynol, mae’r Athro Smith yn dadlau bod y nodweddion ontolegol hyn yn datgelu cymeriad gwrthgyferbyniol ein ‘bod dynol’, sydd, yn ei dro, yn dylanwadu’n fawr ar y posibiliadau ar gyfer llesiant cynyddol a gostyngol. Yna mae’n cymhwyso’r mewnwelediadau athronyddol hyn i nifer o bolisïau cymdeithasol ac arferion lles, yn ymwneud, er enghraifft, â phensiynau, anabledd, cwnsela profedigaeth, rhagnodi cymdeithasol o fewn practisau meddygol, hybu iechyd meddwl, ac arferion cyd-gynhyrchiol.