Cenhadaeth Ysgol
Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru yw gwella iechyd a lles cymdeithas trwy
ymchwil i ragnodi cymdeithasol a’i werthuso mewn modd rhagorol.
Mae Ysgol Ymchwil
Rhagnodi Cymdeithasol Cymru (WSSPR) dan arweiniad ymchwilwyr ym Mhrifysgol De
Cymru ac mae’n ysgol Cymru gyfan.
Rydym yn
defnyddio model ymchwil trosiadol i sicrhau bod canfyddiadau yn cael effaith
fawr yn y byd academaidd, ymarfer, polisi ac addysg.
Mae rhagnodi
cymdeithasol yn “cysylltu dinasyddion â chymorth cymunedol i reoli eu hiechyd
a’u llesiant yn well”. Yng Nghymru, mae rhagnodi cymdeithasol i’w gael yn y
gymuned yn bennaf, gyda rhagnodwyr cymdeithasol yn cael eu hariannu gan
sefydliadau’r sector gwirfoddol. Gellir cyfeirio unigolion at ragnodi
cymdeithasol trwy lwybrau clinigol a chymdeithasol, ac mae model
hunan-atgyfeirio yn dod i'r amlwg.
Ariennir Ysgol
Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru (WSSPR) gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil
Iechyd a Gofal Cymru ac mae’n rhan o Ganolfan PRIME Cymru.
Cyhoeddiad diweddar: Thomas, G., Lynch, M., Spencer, L.H. (2021). A Systematic Review to Examine the Evidence in Developing Social Prescribing Interventions That Apply a Co-Productive, Co-Designed Approach to Improve Well-Being Outcomes in a Community Setting. International Journal of Environmental Research and Public Health; 18(8):3896. https://doi.org/10.3390/ijerph18083896
Mae angen datblygu’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer rhagnodi cymdeithasol ac mae bylchau yn ein dealltwriaeth o’r effaith, y mecanweithiau a’r rolau o fewn rhagnodi cymdeithasol.
Nod WSSPR yw mynd i’r afael â’r bylchau hyn drwy weithio o fewn pedair thema sydd wedi datblygu drwy ddefnyddio ein model ymchwil trosiadol:
Nod y thema Gwerth Cymdeithasol yw cynnal ymchwil gwerth cymdeithasol ar gyfer rhaglenni rhagnodi cymdeithasol i ddarparu tystiolaeth ar gyfer effaith ymyriadau, dyrannu adnoddau a gwasanaethau gwerth am arian.
Nod y thema Lles yw archwilio sut mae gwahanol fodelau llesiant yn cydberthyn, ac yn cael eu hadlewyrchu a’u cymhwyso mewn theori ac ymarfer rhagnodi cymdeithasol.
Mae thema NBIC+
yn archwilio effeithiolrwydd a gwerth ymyriadau sy'n seiliedig ar natur (NBIau)
a gweithgareddau sy'n dod o dan ymbarél 'atgyfeirio creadigol', yn ogystal â'r
berthynas rhwng y ddau.
Fideo
Beth ydy presgripsiynu cymdeithasol?
Animeiddiad Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru
Cysylltwch â ni
Cyflwyno mynegiant o ddiddordeb mewn cydweithredu ymchwil, neu gofrestru ar ein rhwydwaith i gael newyddion a diweddariadau rhagnodi cymdeithasol
EnwE-bostCofrestru rhwydwaith (ar gyfer newyddion a digwyddiadau)NegesI agree to the Terms & Conditions and Privacy PolicySubmit