
Awst 2023
Cynhadledd Ryngwladol ar Iechyd y Cyhoedd 2023
Rhoddodd Dr Simon Newstead gyflwyniad llafar yn y 9fed Gynhadledd Ryngwladol ar Iechyd y Cyhoedd 2023 (ICOPH 2023) a gynhaliwyd ar 3 - 4 Awst 2023 yn Kuala Lumpur, Malaysia. Teitl y cyflwyniad: 'Siarad yr un iaith: Datblygu geirfa o dermau ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol' (a ddarperir o bell).
Thema'r gynhadledd eleni oedd: "Parodrwydd ym maes Iechyd y Cyhoedd: Hyrwyddo Technoleg, Tegwch a Chryfhau'r Gymuned" ac mae'n dwyn ynghyd ymchwilwyr ac astudiaethau achos amrywiol o bob rhan o'r byd.